English icon English

Newyddion

Canfuwyd 201 eitem, yn dangos tudalen 1 o 17

4 WALES

Datgelu enwau unigolion talentog o Gymru ar gyfer y 'Gemau Olympaidd Sgiliau' mawreddog

Mae chwech o brentisiaid a myfyrwyr ifanc talentog o Gymru wedi cael eu dewis i gynrychioli’r DU yn WorldSkills 2024 yn Lyon.

Welsh Government

Gem arswyd saethwr zombie o Gymru ar frig siartiau gemau rhyngwladol

Ar ôl lansio wythnos ddiwethaf, daeth Sker Ritual, gêm arswyd gothig gyda stori gefndir yng Nghymru, yn un o'r gemau PC a chonsol a werthodd orau yn y byd.  – gan gyrraedd y 3 uchaf ar Steam, y 5 uchaf ar Xbox a'r 10 uchaf ar PlayStation.

WNS 250424 Cardiff Animation Minister 04

Animeiddwyr yn dod at ei gilydd!

Mae cyfres animeiddio ddystopaidd a chomedi oruwchnaturiol animeiddiedig i oedolion ymhlith prosiectau addawol sy'n cael hwb ariannol yr wythnos hon wrth i'r diwydiant animeiddio Cymreig ddod i Gaerdydd.

Awduron

Ffilmiau Cymraeg newydd ar y gweill gyda chefnogaeth Sinema Cymru

Bydd pedair ffilm nodwedd Gymraeg newydd yn cael eu cefnogi i'w datblygu fel rhan o Gronfa Sinema Cymru Greadigol.  

Welsh Government

Edrychwch a ydych yn gymwys am grant i leihau costau rhedeg busnes

Gall busnesau micro, bach a chanolig yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden nawr edrych i weld a ydyn nhw'n gymwys am gymorth gan Lywodraeth Cymru i'w helpu i leihau eu costau.

Welsh Government

Gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant gemau yng Nghymru yn chwifio’r faner mewn cynhadledd ‘allweddol’ yn yr Unol Daleithiau

Bydd cymorth gan Cymru Greadigol a Llywodraeth Cymru yn gweld rhai o gwmnïau datblygu gemau a meddalwedd mwyaf blaenllaw Cymru yn mynd i gynulliad blynyddol mwyaf y diwydiant gemau yn San Francisco.

Welsh Government

Hyd at 2,500 o fusnesau i elwa ar Gronfa Paratoi at y Dyfodol Llywodraeth Cymru

Cyn bo hir, bydd cannoedd o fusnesau micro, bach a chanolig yng Nghymru yn gallu gwneud cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru sydd wedi'i gynllunio i'w helpu i leihau eu costau rhedeg.

Tata2-2

Y Gweinidog Iechyd yn cyfarfod â Tata Steel yn Mumbai

Mae'r Gweinidog Iechyd wedi ailadrodd cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r diwydiant dur yng Nghymru yn ystod ei chyfarfod â Tata Steel yn India yn gynharach heddiw (dydd Iau 29 Chwefror).

Welsh Government

£5.9m o gymorth gan Lywodraeth Cymru i fusnesau sy'n buddsoddi mewn ymchwil ac arloesi

Mae dros hanner cant o brosiectau wedi cael £5.9m o gymorth gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn offer a fydd yn helpu i ddatblygu a gwreiddio cynhyrchion a gwasanaethau arloesol newydd.

Welsh Government

£2.5m yn ychwanegol i helpu mwy o bobl ifanc i gael gwaith neu hyfforddiant pellach

Mae rhaglen sy'n darparu'r sgiliau, y cymwysterau a'r profiad sydd eu hangen ar bobl ifanc i gael swydd, neu barhau â'u hyfforddiant neu ddychwelyd i addysg yn cael £2.5m o gyllid ychwanegol.

Welsh Government

Mwy na 900 o weithwyr yn eistedd yn gyfforddus yn dilyn cymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer twf busnes

Mae busnes sy'n dylunio, yn gweithgynhyrchu ac yn cynnal ac yn cadw seddi awyrennau dosbarth cyntaf a dosbarth busnes yn buddsoddi ar gyfer y dyfodol yn ei safleoedd yng Nghasnewydd a Chwmbrân, ar ôl i gyllid Llywodraeth Cymru helpu i gefnogi mwy na 900 o swyddi presennol a thwf pellach yn y gweithlu.

Welsh Government

Hunanbortread Van Gogh yn dod i Gymru am y tro cyntaf

  • Bydd y gwaith celf yn rhan o arddangosfa newydd sbon yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Mae’r benthyciad yn nodi diwedd Blwyddyn Cymru yn Ffrainc Llywodraeth Cymru, sydd wedi cryfhau cysylltiadau diwylliannol, chwaraeon a busnes drwy fwy na 40 o ddigwyddiadau
  • Bydd La Parisienne yn teithio i Musée D’Orsay, Paris yn rhan o’r gyfnewidfa gelf