English icon English
Senedd outside-2

Pleidlais fawr yn nodi carreg filltir newydd yn nhaith datganoli Cymru

Landmark vote marks new milestone for Welsh devolution

Heddiw (8 Mai), mae Senedd Cymru wedi cytuno ar gynigion nodedig i foderneiddio'r Senedd a'i gwneud yn fwy effeithiol.

Pleidleisiodd Aelodau o'r Senedd o blaid pasio Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn yr wythnos sy'n nodi 25 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru.

Nod y Bil, sy'n rhan o Gytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru, yw creu Senedd fodern sy'n gallu cynrychioli pobl yng Nghymru yn well ac sydd â mwy o allu i graffu, deddfu, a dwyn y llywodraeth i gyfrif.

Ar ôl cael y Cydsyniad Brenhinol, bydd y ddeddfwriaeth yn arwain at y newidiadau canlynol o etholiad Senedd 2026 ymlaen:

  • Bydd gan y Senedd 96 o Aelodau a fydd yn cael eu hethol gan ddefnyddio system cynrychiolaeth gyfrannol â rhestrau caeedig, gan enwi'r holl ymgeiswyr ar bapurau pleidleisio.
  • Bydd rhaid i ymgeiswyr i'r Senedd, ac Aelodau o'r Senedd, fyw yng Nghymru.
  • Bydd etholiadau'r Senedd yn cael eu cynnal bob pedair blynedd (o 2026 ymlaen).

Yn ogystal, ceir ymrwymiadau i adolygu'r newidiadau yn dilyn etholiad 2026, ac i ystyried goblygiadau ymarferol a deddfwriaethol rhannu swyddi yn y Senedd.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw:

Y mis hwn ry'n ni'n nodi 25 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru, ac mae pasio'r Bil hwn yn garreg filltir nodedig i ddemocratiaeth Cymru.

Yn ystod y chwarter canrif ddiwetha', mae cyfrifoldebau'r Senedd wedi cynyddu, gan gynnwys pwerau i basio deddfau ac amrywio trethi, ond does dim newid wedi bod i'w maint.

Mae gan Gymru lai o gynrychiolaeth na'r un wlad arall yn y Deyrnas Unedig – y Senedd sydd â'r nifer lleiaf o Aelodau o blith y Seneddau datganoledig, ac mae nifer ein seddi yn San Steffan yn cael ei leihau.

Heddiw, mae Aelodau o'r Senedd wedi pleidleisio i gywiro'r diffyg cynrychiolaeth hwnnw a chryfhau ein democratiaeth. Bydd y bleidlais hon yn sicrhau bod gan ein Senedd fwy o allu i graffu ar gyfreithiau a chynlluniau gwario, a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Dywedodd Sian Gwenllian, AS, Aelod Dynodedig Arweiniol Plaid Cymru ar gyfer y Cytundeb Cydweithio:

Mae heddiw'n gam hanesyddol arall ymlaen sy'n cryfhau ein democratiaeth ac yn creu Senedd gryfach, fwy cynrychiadol a mwy effeithiol.

Wrth inni nodi 25 mlynedd ers etholiad cyntaf y Senedd, bydd etholiadau nesaf ein senedd genedlaethol yn 2026 yn cael eu cynnal dan system newydd a fydd yn fwy cyfrannol. Bydd Aelodau yn gallu dal Llywodraeth Cymru i gyfrif yn well a chraffu'n well ar y penderfyniadau sy'n effeithio ar bob un ohonon ni.

Wrth i bwerau a chyfrifoldebau'r Senedd gynyddu, mae angen i'n democratiaeth aeddfedu ymhellach fel y gallwn wireddu ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru. Ni ddylai Cymru fod ar ei cholled yn ddemocrataidd.

DIWEDD