English icon English

Cyfleuster cerbydau nwyddau trwm Parc Cybi i ailagor yr wythnos nesaf

Parc Cybi HGV facility to re-open next week

Mae disgwyl i'r cyfleuster parcio cerbydau nwyddau trwm (HGV) sy'n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru ym Mharc Cybi, Caergybi, ailagor ddydd Llun Mai 13, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ken Skates, wedi cadarnhau.

Caewyd y cyfleuster dros dro ddiwedd mis Mawrth oherwydd pwysau cyllidebol, gydag ymrwymiad i weithio'n agos gyda phartneriaid allweddol i ddarparu gwasanaeth costeffeithiol cyn gynted â phosibl.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

"Rwy'n falch ein bod yn gallu ailagor y cyfleuster hwn yn dilyn trafodaethau â phartneriaid, a fydd yn darparu ardal am ddim i gerbydau nwyddau trwm stopio cyn neu ar ôl defnyddio porthladd Caergybi.

"Er nad oes gofyniad statudol ar Lywodraeth Cymru i ddarparu'r cyfleuster hwn, gwyddom fod angen lle fel hyn ar gyfer cerbydau nwyddau trwm ers cau Roadking.  Mae'n dod â manteision i'r porthladd a'r ardal ehangach.

"Roedd angen i ni ddod o hyd i ffordd gosteffeithiol o ddarparu'r gwasanaeth hwn, y gwyddom ei fod yn cael ei werthfawrogi'n lleol a chan y gyrwyr HGV sy'n ei ddefnyddio.  Mae'n newyddion da bod hyn wedi'i gyflawni erbyn hyn.

"Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ddod o hyd i ateb tymor hir ond bydd y cyfleuster hwn ym Mhlot 9, Parc Cybi, yn parhau ar agor tan hynny."

Mae aelod o staff wedi cael ei gadw ar gyfer ailagor a chyflenwyr lleol yn cael eu defnyddio.