English icon English

Amgueddfa Lechi Cymru yn anelu at ddod yn atyniad ymwelwyr o'r radd flaenaf

National Slate Museum aiming to become world-class visitor attraction

A hithau'n benwythnos Gŵyl y Banc, mae'r Ysgrifennydd Diwylliant Lesley Griffiths wedi ymweld ag Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis i weld sut mae gwaith ailddatblygu yn anelu at droi'r lleoliad yn atyniad ymwelwyr o'r radd flaenaf, ac mae wedi annog pobl i ymweld.

Mae cyllid Llywodraeth Cymru o fwy na £1m eisoes wedi helpu i symud y gwaith ailddatblygu yn ei flaen, gan gynnwys gwneud y mwyaf o ofod amgueddfa ar gyfer casgliadau a gweithgareddau, a sicrhau bod swyddfeydd priodol ar gael i weithwyr.

Mae'r Amgueddfa hefyd wedi sicrhau cyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i barhau â'r cynlluniau ailddatblygu fel prif safle dehongli ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd UNESCO Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru, gan gynnwys y nod o ddatblygu gofodau creadigol newydd.

Wedi'i lleoli wrth droed yr hyn a oedd yn y gorffennol yn un o'r chwareli llechi mwyaf yn y byd, Chwarel Dinorwig, mae'r amgueddfa wedi'i lleoli yn y gweithdai peirianneg gwreiddiol, a adeiladwyd ym 1870, a oedd unwaith yn cyflogi ymhell dros 3,000 o weithwyr.

Caeodd y chwarel yn 1969 cyn ailagor fel amgueddfa yn 1972. Cafodd ei hailddatblygu yn 1999 gyda chyfleusterau newydd ac mae cynlluniau ar gyfer ailddatblygu pellach yn mynd rhagddynt.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Lesley Griffiths: "Mae Gŵyl y Banc yn gyfle gwych i bobl ymweld â'n hamgueddfeydd a dysgu mwy am yr hanesion hynod ddiddorol sydd ganddyn nhw i'w hadrodd.

"Mae'r diwydiant llechi yn rhan bwysig o gymunedau, tirweddau a threftadaeth y rhan yma o Gymru ac mae Amgueddfa Lechi Cymru yn cynnig cyfle unigryw i gael cipolwg ar fywydau'r gweithwyr llechi a'u teuluoedd.

"Mae'r hyn a welais wedi creu argraff fawr arnaf, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru, ynghyd â Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, wedi gallu darparu cyllid tuag at ei hailddatblygu a sicrhau ei bod yn parhau i gynnig profiadau gwych i bob ymwelydd.

"Byddwn yn annog pawb i ymweld â'r Amgueddfa a dysgu mwy am hanes diddorol diwydiant llechi yr ardal."

Dywedodd Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru, Jane Richardson: "Roeddem yn falch iawn o groesawu Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Lesley Griffiths AS i Amgueddfa Lechi Cymru i ddangos ystod a dyfnder ein gwaith yng ngogledd Cymru a'r ffyrdd arloesol y gallwn adrodd hanes llechi.

"Rydym yn edrych ymlaen i weithio gyda Llywodraeth Cymru a'n partneriaid, Cyngor Gwynedd a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, wrth i ni ailddatblygu'r Amgueddfa yn ganolbwynt Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Bydd y prosiect trawsnewidiol hwn yn ein galluogi i greu lleoedd i gefnogi sgiliau traddodiadol, dysgu a lles a chysylltu'n well â phawb, o gymunedau lleol i'r rhai o bell, gan eu galluogi i ddod o hyd i'w stori trwy ein casgliad cenedlaethol."